Os byddaf yn meddwl yn ôl i pan oeddwn yn tyfu i fyny, yn pendroni am fy lle yn y byd fel dyn hoyw ifanc o deulu dosbarth gweithiol ym Mhontarddulais, fyddwn i byth wedi dychmygu un diwrnod y byddwn yn cynnig fy hun i arwain ein plaid a’n cenedl.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae aelodau’r blaid, o bob rhan o Gymru, cydweithwyr yn y Cabinet a’r Senedd, ASau, cynghorwyr, arglwyddi, undebwyr llafur, a llawer o rai eraill yn ein mudiad wedi mynegi eu cefnogaeth i mi arwain ein plaid. Rwy’n hynod ddiolchgar.
Wrth ateb y galwadau hyn, rwy’n sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ac i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Rwy’n benderfynol o adeiladu ar etifeddiaeth Mark a’i ymrwymiad diamheuol i wasanaeth cyhoeddus. Wrth inni edrych ymlaen at y chwarter canrif nesaf ar daith ddatganoli, rhaid inni osod ein golygon ar ddyfodol uchelgeisiol i Gymru, dan arweiniad Llafur Cymru.
Mae ymosod y Torïaid ar wasanaethau cyhoeddus, cyni a’u camreoli o’n heconomi, yn golygu bod pethau wedi bod yn anhygoel o anodd i bobl ledled ein gwlad. Rydym yn wynebu sawl her o’n blaenau – ond rwy’n obeithiol am y dyfodol.
Mae buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol mwy cadarnhaol hwnnw. Gall Llywodraeth Lafur y DU dan arweiniad Keir Starmer, gan weithio gyda’n Llywodraeth Lafur Cymru, gyflawni cymaint mwy i Gymru. Gyda’n gilydd, byddwn yn dod â’r cylch o argyfyngau Torïaidd sydd wedi trechu cymaint i ben. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau buddugoliaeth i Lafur; mae arnom ddyled i’n gwlad.
A pheidiwch ag unrhyw amheuaeth, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yr wyf yn ei harwain, bob amser yn sefyll cornel Cymru.
Byddaf yn gosod gweledigaeth feiddgar, uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer dyfodol Cymru. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i wireddu’r weledigaeth honno.
Jeremy Miles, MS